Stori Cathy

Hen law ar yr arddegau

Woman sitting on garden bench

Mae Cathy Evans o Gaerdydd yn gwybod llawer iawn am fagu pobl ifanc yn eu harddegau - ar ôl magu pump o'i phlant ei hun daeth yn fam faeth i bobl ifanc yn eu harddegau gyda Barnardo’s Cymru.

Yn ystod ei 13 o flynyddoedd fel gofalwr maeth, mae hi wedi delio â chryn dipyn o strancio a’r heriau eraill a ddaw wrth fagu pobl ifanc yn eu harddegau, ond ni fyddai’n newid hynny am y byd.

‘Os gallaf wneud gwahaniaeth bach i’w bywydau yna mae’r cyfan yn werth chweil,’ meddai.

Sgiliau bywyd a hunan-barch

Mae Cathy wedi agor drysau ei chartref i nifer o bobl ifanc yn eu harddegau dros y blynyddoedd, rhai ohonynt â phroblemau cymhleth. Tra mae rhai lleoliadau maeth yn rhai tymor byr, mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros am tua blwyddyn ac mae rhai wedi aros am dair.

Mae Cathy yn ceisio dysgu popeth iddyn nhw, o sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain a choginio i sgiliau addurno ar gyfer pan fyddan nhw'n gadael gofal ac yn symud i'w cartrefi eu hunain. Ond mae hi’n dweud mai’r peth pwysicaf yw gwrando.

‘Weithiau maen nhw'n cyrraedd gyda phopeth maen nhw'n berchen arno mewn bag bin du. Os nad oes ganddynt lawer o hunan-barch rwy'n eu hannog i newid y ffordd maen nhw'n meddwl yn greadigol er mwyn iddynt feithrin rhywfaint o hunanwerth. Pan fydd hi'n amser iddyn nhw symud ymlaen, rwy'n anelu at sicrhau eu bod yn teimlo'n well amdanyn nhw eu hunain a'u bod wedi dysgu rhai o'r sgiliau fydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywydau llwyddiannus, annibynnol, ' meddai Cathy.

‘Rwy'n barod iawn i wrando’

Mae hi'n nodi ffiniau ar gyfer y bobl ifanc yn eu harddegau mae hi’n eu maethu ac yn mynnu eu bod yn cymdeithasu fel rhan o'r teulu yn hytrach na chloi eu hunain yn eu hystafelloedd, ac mae hyn i’w weld yn gweithio.

‘Rydyn ni’n siarad llawer, ac rwy'n barod iawn i wrando.’ Rwyf hefyd yn peintio ac yn addurno yn aml ac mae rhai ohonynt yn hoffi fy helpu gan ei fod yn rhoi lle iddynt siarad â mi ar eu telerau nhw. Mae hefyd yn rhoi ymdeimlad o foddhad a pherchnogaeth iddynt, yn enwedig os ydyn ni wedi addurno rhywbeth ar gyfer eu hystafell.’

Tawelu tensiwn

Wrth siarad am heriau maethu pobl ifanc yn eu harddegau, dywed 'mae'n anochel bod sefyllfaoedd sy'n arwain at densiwn, er enghraifft, os yw plentyn maeth yn gwrthod codi o'r gwely yn y bore i fynd i’r ysgol neu’r coleg. Mae llawer o blant sy'n cael gofal yn aml yn gyfarwydd â phobl yn gweiddi arnyn nhw ac nid yw hynny'n gweithio.

‘Gyda chymorth Barnardo's, rwyf wedi datblygu ystod o dechnegau i osgoi gwrthdaro ar gyfer tawelu tensiwn, gan gynnwys cerdded i ffwrdd weithiau, sy'n aml yn golygu bod fy mhlant maeth yn gadael i mi wybod pan fyddan nhw’n barod i siarad.’

Mae plant Cathy ei hun, sydd bellach yn eu 30au a rhai gyda'u teuluoedd eu hunain, wedi chwarae eu rhan eu hunain yn ei stori faethu. ‘Weithiau maen nhw wedi cael mwy o oleuni ar sut mae rhywun yn ei arddegau yn meddwl ac maen nhw'n fy helpu i weld pethau o'u safbwynt nhw.’

Datblygu fel gofalwr maeth

Mae Cathy wedi cael cymaint o lwyddiant gyda phobl ifanc yn eu harddegau mae hi bellach yn maethu’r rhai mwyaf heriol, sydd wedi wynebu trawma neu sydd ag anableddau. Mae hi’n maethu drwy brosiect ‘Lle Gwell’ Barnardo’s, sy'n cynnig cyfleoedd i ofalwyr ddatblygu gyrfa drwy faethu.

Meddai Jason Baker, Pennaeth Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, 'Mae wedi bod yn bleser mawr gweld Cathy yn datblygu fel gofalwr maeth ac rwy'n annog unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd wedi'i ysbrydoli gan stori Cathy i gysylltu â ni i weld sut y gallech ymuno â'n teulu a gwneud gwahaniaeth go iawn.’

Gwobrau arbennig

Mae Cathy yn dweud sut y gall maethu gynnig gwobrau amhrisiadwy. ‘Fe wnes i faethu un dyn arbennig a ddaeth ataf pan oedd yn 14 oed ac mae’n dal i gadw mewn cysylltiad. Mae'n fy ngalw i'n 'fam arall' iddo ac un flwyddyn fe wnaeth fy ffonio ar fy mhen-blwydd a gofyn sut oeddwn i'n sillafu fy enw er mwyn iddo ei gael ar ffurf tatŵ ar ei law. Mae newydd ofyn i mi fod y ddynes sy'n ei hebrwng yn ei briodas a dyna’r deyrnged orau y gallwn obeithio amdani.’

Fyddwch chi ddim yn gwybod tan i chi roi cynnig arni

'Dydych chi ddim yn gwybod yn iawn pa fath o ofalwr maeth y gallech chi fod nes i chi roi cynnig arni,' meddai Cathy, 'ond os ydych chi'n amyneddgar iawn, yn gallu peidio â chynhyrfu ac eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc sy'n agored i niwed, yna gallai fod yn addas i chi.’