Canolbwyntio ar...
Cymorth i blant sy’n cam-drin yn rhywiol
Mae gwasanaeth gan Barnardo’s Cymru, sy’n gweithio’n un-swydd i helpu plant sy’n achosi niwed rhywiol i eraill, yn nodi ei ben-blwydd yn ddeg oed eleni.
Mae partneriaeth y Gwasanaeth Taith yn gweithio gyda mwy na chant o blant pob blwyddyn. Mae tua 40% o gam-drin rhywiol yn y DU yn cael ei gyflawni gan blant a phobl ifanc. Yn ôl y dystiolaeth, nid yw’r rhan fwyaf o blant ifanc sy’n derbyn digon o gymorth ac sy’n gweithio i geisio datrys eu hymddygiad yn parhau i gam-drin eraill yn rhywiol. Ond mae’n bwysig ein bod yn adnabod y rhai sydd fwyaf mewn perygl o barhau i ymddwyn fel hyn. Mae’r Gwasanaeth Taith yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau plant a’r heddlu i asesu risg ac i ganfod pa wasanaethau sydd fwyaf eu hangen ar y person ifanc a’i deulu.
Mae Denise Moultrie, Rheolwraig Gwasanaeth Taith, yn egluro:
“Yn Taith, ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o risg i eraill. Rydym yn gweithio gyda’r person ifanc i’w helpu i reoli ei ymddygiad niweidiol ac i ddeall yr effaith y mae’r ymddygiad yn ei gael ar y dioddefwr. Rydym yn herio’r syniadau sydd efallai ganddynt am blant iau, merched a rhyw. Drwy ddysgu sut y medrant ymddwyn yn fwy diogel, gallwn helpu’r person ifanc i roi’r gorau iddi a sicrhau bod plant yn yr un teulu ac yn y gymuned yn cael eu hamddiffyn.
“Mae pobl ifanc sydd wedi cam-drin eraill yn rhywiol yn aml iawn wedi cael bywydau ifanc anodd, wedi cael eu cam-drin eu hunain ac wedi cael eu magu mewn amgylchiadau helbulus a dryslyd iawn. Efallai fod ganddynt drafferthion dysgu neu gyflwr arall sy’n ei gwneud yn anoddach iddynt reoli neu ddeall eu teimladau rhywiol. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gam-drin aelod o’r teulu neu gydnabod agos. Yn yr achosion hyn, mae’r teulu cyfan weithiau’n cael ei chwalu’n llwyr.”
Mae Barnardo’s Cymru yn galw am wasanaethau cymorth arbenigol i fod ar gael ym mhob ardal drwy Gymru ac am ganllawiau i bob awdurdod yng Nghymru ar sut i reoli pobl ifanc sy’n achosi niwed rhywiol i eraill.
Meddai Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwraig Barnardo’s Cymru:
“Gall Gwasanaeth Taith ddangos pa mor effeithiol y mae’n gweithio gyda’r bobl ifanc hyn gan felly leihau’r risg i eraill. Nid oes gan bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru fynediad at wasanaeth arbenigol felly nid yw rhai pobl ifanc yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd mabwysiadu canllawiau newydd yn sicrhau bod yr asesiadau a’r cynlluniau ar gyfer rheoli plant a phobl ifanc sy’n achosi niwed rhywiol i eraill yn gyson ar draws Cymru.
“Bydd methu â darparu cymorth arbenigol i’r bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o achosi niwed rhywiol i eraill yn cael effaith ar unwaith, ac yn y tymor hirach, ar amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru. O ystyried y gost o reoli pobl ifanc risg uchel a rhoi sylw i anghenion dioddefwyr, mae Taith yn fodel cost-effeithiol sy’n gallu cynnig gwasanaeth da i awdurdodau lleol.
“Mae Partneriaeth Taith yn cynnwys tîm ymroddedig o bobl broffesiynol sy’n gweithio mewn partneriaeth â saith awdurdod lleol yn Ne Cymru ac sy’n arwain asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant.”
Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn y Cynulliad, Gwenda Thomas:
"Ers ei lansio, credaf fod Taith wedi gwneud gwaith amhrisiadwy gyda phlant a phobl ifanc yr honnir eu bod wedi achosi niwed rhywiol i eraill, tra’n cynnig gwasanaeth hanfodol i helpu i rwystro’r bobl ifanc hyn rhag bod yn risg i eraill.
"Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi bod protocol Cymru gyfan, ar gyfer plant a phobl ifanc yr honnir eu bod wedi achosi niwed rhywiol i eraill, i gael ei gynhyrchu. Bydd y protocol yn nodi’n glir sut fath o ymateb aml-asiantaethol cyd-gysylltiedig fydd ei angen a bydd yn ffurfio rhan o’r gweithdrefnau cenedlaethol ar amddiffyn plant, gan sicrhau bod yr holl Fyrddau Lleol ar Ddiogelu Plant yn ymrwymo i’w egwyddorion a’i arferion. Rwyf yn ddiolchgar i Barnardo’s Cymru oherwydd bydd eu harbenigedd nhw yn greiddiol i gynhyrchu’r ddogfen hon."
![]()

