Skip to navigation


Barnardo’s Cymru – ein gwaith yng Nghymru

picture of family

Bu Barnardo's Cymru yn gweithio yng Nghymru ers dros gan mlynedd. Ei nod yw estyn allan i’r plant, y bobl ifanc, y teuluoedd a’r cymunedau mwyaf difreintiedig er mwyn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Rydym yn ceisio sicrhau bod pob person ifanc yn gallu gwireddu eu potensial llawn, beth bynnag y bo amgylchiadau eu bywyd.

Mae Barnardo’s yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw ar gyrion cymdeithas ac yn brwydro i oresgyn yr anawsterau a achosir gan dlodi, cam-drin a gwahaniaethu.

Heddiw rydym yn rhedeg 43 o wasanaethau ledled Cymru gan gynnwys:

  • Canolfannau teulu a gweithgareddau – sy’n cefnogi mamau a thadau yn eu rôl fel rhieni ac yn darparu gweithgareddau a chwarae diogel ar gyfer plant.
  • Prosiectau Gofalwyr Ifanc - sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau oedolyn yn y cartref oherwydd bod aelod o’r teulu yn ddifrifol wael neu'n anabl neu’n dioddef o broblemau iechyd meddwl neu'n camddefnyddio alcohol neu gyffuriau.
  • Gwasanaeth maethu a mabwysiadu ledled Cymru - sy'n dod o hyd i gartrefi maethu a mabwysiadu ar gyfer plant sy'n anodd eu lleoli; er enghraifft, grwpiau o frodyr a chwiorydd sydd angen cael eu cadw gyda'i gilydd, plant anabl, plant o gymunedau du a lleiafrifoedd du ac ethnig a phlant sydd â phroblemau ymddygiad sylweddol.
  • Gwasanaethau cyswllt teulu – sy'n darparu cefnogaeth gwyliau byr a chyfleoedd hamdden ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.
  • Gadael gofal a gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ddigartref – sy’n cynnig cefnogaeth i ofalwyr ifanc sy'n agored i niwed a phobl ifanc ddigartref sy'n 16 oed, gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i lety, datblygu sgiliau bywyd, cyngor ar faterion iechyd a chymorth gydag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Gwasanaeth Taith – partneriaeth gyda saith awdurdod lleol, Heddlu De Cymru ac Uned Gaeth Hillside, sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag ymddygiad rhywiol problemus.   
  • Gwasanaeth Seraf – prosiect newydd ledled Cymru sy’n helpu plant a phobl ifanc y mae pobl eraill yn camfanteisio'n rhywiol arnynt  ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o hynny. Mae’r prosiect wedi'i leoli ar hyn o bryd yng Nghasnewydd, Abertawe a Wrecsam.
  • Gwasanaeth Caterpillar - sy’n cefnogi pobl ifanc sydd â phryderon ynghylch iechyd meddwl. Mae'r prosiect wedi gweithio gyda phobl ifanc sy'n hunan niweidio, sydd ag anhwylderau bwyta ac sy’n dioddef o drallod meddyliol ac emosiynol.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth uniongyrchol trwy ei wasanaethau, mae Barnardo’s Cymru hefyd yn ceisio dylanwadu ar lunwyr polisi i wella bywydau'r plant a phobl ifanc sydd fwyaf difreintiedig ac agored i niwed.  Er enghraifft, rydym wedi ymgyrchu'n llwyddiannus dros wasanaethau yng Nghymru sy'n cefnogi plant y mae pobl eraill yn camfanteisio’n rhywiol arnynt.

Mae Barnardo’s Cymru yn credu nad yw hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i helpu plentyn neu berson ifanc mewn angen a dydyn ni ddim yn rhoi’r ffidil yn y to.

Dim ond un plentyndod y bydd plant yn ei gael a nod Barnardo's Cymru yw gwneud yn siwr eu bod yn manteisio i'r eithaf arno fel y gallant adeiladu gwell dyfodol.


Barnardo's Cymru logo

Dewis iaith