Cyfleoedd codi arian corfforaethol
Partneriaethau corfforaethol
Mae ein tîm corfforaethol profiadol yn creu partneriaethau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr ac sy'n seiliedig ar anghenion eich busnes. Waeth beth yw maint eichdiwydiant neu'ch cwmni, mae eich mudiad yn sicr o gefnogaeth a phroffesiynoldeb bob amser.
Mae cyfleoedd i gydweithio’n cynnwys:
- Dewis Elusen
- marchnata sy’n gysylltiedig ag achos
- nawdd
- cynnwys gweithwyr – gan gynnwys mentrau codi arian ar gyfer staff a heriau tîm
- digwyddiadau
- rhoi drwy’r gyflogres
- cyfraniadau corfforaethol a rhoddion ymarferol
- Elusennau Partner tymor hwy.
Mae bod yn bartner corfforaethol i Barnardo’s Cymru yn cynnig:
- achos sy’n berthnasol i bawb
- enw a logo proffil uchel, uchel eu parch
- gwefan yr ymwelir â hi'n aml ac amrywiaeth o gyhoeddiadau o ansawdd uchel y gellid cysylltu eich enw a'ch logo â hwy
- rhwydwaith o dros 4 o 0brosiectau ar hyd a lled Cymru sy’n rhoi ffocws i’ch ymgyrchoedd codi arian
- tîm profiadol yn cydweithio â chi i sicrhau llwyddiant i chi ac i ni
- I gael gwybod mwy am sut y gall eich cwmni chi gyfrannu at waith Barnardo's ac i drafod manteision cydweithio, cysylltwch â 02920 436 236.
Digwyddiadau partneriaethau corfforaethol
Mae Barnardo’s Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio yng Nghaerdydd ac Abertawe. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar digwyddiadau rhwydweithio neu e-bostiwch ni.
Ein cefnogwyr corfforaethol
Mae Barnardo’s Cymru yn gweithio gyda chwmnïau trwy gyfrwng partneriaethau o bob math ac isod nodir ein prif gefnogwyr corfforaethol.
Mae gan dîm corfforaethol Barnardo’s hanes llwyddiannus o bartneriaethau gwych sy’n seiliedig ar gyflawni amcanion busnes, datblygu perthnasau clòs a chreu syniadau arloesol. Yr ydym eisoes wedi helpu nifer o sefydliadau gyflawni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol wrth ennyn ymrwymiad staff a sicrhau brwdfrydedd rhanddeiliaid ar yr un pryd.
Cysylltwch â ni yn awr ar 0208 498 7138 i roi cychwyn arni yn eich cwmni chi!

