Taith gerdded noddedig hanner milltir o hyd ar gyfer plant dan 5 oed yw’r Daith Gerdded Fawr a dyma’r digwyddiad mwyaf yn y DU ar gyfer plant dan oed ysgol. Yn 2005, cododd 100,000 o blant bach dros £1 miliwn ar gyfer gwaith Barnardo’s gyda phlant blynyddoedd cynnar sydd dan anfantais a chymunedau lleol. Gyda’ch cymorth chi, gobeithiwn godi hyd yn oed rhagor yn 2006.
Mae Barnardo’s yn helpu plant mwyaf diymgeledd y DU i gael gwell cychwyn mewn bywyd ac felly’r cyfle i gael dyfodol gwell. Ein gweledigaeth yw y dylai bywyd pob plentyn a pherson ifanc fod yn rhydd o dlodi, camdriniaeth a chamwahaniaethu. Mae gwasanaethau blynyddoedd cynnar Barnardo’s yn sicrhau bod plant dan anfantais yn cael cyfleoedd chwarae a dysgu y mae gwir eu hangen. Mae rhedeg y gwasanaethau hyn yn costio £7m y flwyddyn, a’r Daith Gerdded Fawr yw un o’n digwyddiadau codi arian pwysicaf.
Mae hi’n hawdd iawn cymryd rhan. Gallwch drefnu eich taith gerdded eich hun neu ddod i un o ddigwyddiadau Barnardo’s. Cewch hefyd gyfle i gadw 25% o’r holl arian a godwch ar gyfer eich grwp eich hun.