boy in blue T-shirt

Barnardo's Cymru

Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn haeddu teimlo’n obeithiol am y dyfodol. 

Ond ar hyn o bryd, nid yw hynny’n wir i lawer ohonynt.

Rydym ni yma i’ch helpu chi, a phlant a phobl ifanc ledled Cymru, i deimlo’n fwy diogel, yn hapusach, yn iachach ac yn fwy gobeithiol.    

Gallwn eich helpu chi a’ch plant mewn sawl ffordd. Rydym ni’n gwybod bod angen lle i siarad ar rieni a phlant weithiau, felly mae ein gwasanaeth lles teuluoedd yn cefnogi teuluoedd i rannu eu teimladau a gweithio drwy heriau, gan eu helpu i ddatrys gwrthdaro. Ac os ydych chi’n berson ifanc sydd wedi gadael y system ofal yn ddiweddar ac yn symud i fyw’n annibynnol, efallai y bydd pethau’n teimlo’n llethol. Ond gallwn eich paru â mentoriaid, eich helpu i fagu hyder, a chreu rhwydwaith o ffrindiau er mwyn i chi allu ffynnu pan fyddwch yn oedolyn. Rydym ni’n rhoi cefnogaeth ac arweiniad i ofalwyr ifanc sy’n gofalu am eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gallu byw eu bywydau i’r eithaf, beth bynnag mae hynny’n ei olygu iddyn nhw. 

Rydym ni eisiau bod yno i deuluoedd yng Nghymru sydd ein hangen ni. Gallai hynny fod drwy ein gwasanaethau sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu her benodol, neu drwy gynnig arweiniad a chyngor. 

  • Rwy’n rhiant neu’n ofalwr   

    A yw’n teimlo fel eich bod yn cario pwysau’r byd ar eich ysgwyddau? P’un ai a oes angen cyngor, arweiniad neu gymorth ymarferol arnoch chi, rydym ni yma i’ch helpu. 

  • Rwy’n berson ifanc

    A yw’n teimlo fel eich bod yn cario pwysau’r byd ar eich ysgwyddau? P’un ai a oes angen cyngor, arweiniad neu gymorth ymarferol arnoch chi, rydym ni yma i’ch helpu. 

  • Mae gen i ddiddordeb mewn maethu neu fabwysiadu 

    Dychmygwch deimlo eich bod yn perthyn, o’r diwedd. Os ydych chi eisiau rhoi cartref cariadus i blentyn lle gall ffynnu, rydym ni yma i’ch cefnogi ar eich taith. 

Gadewch i ni wneud i bethau weithio’n well i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru. 

Rydym ni’n ceisio sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu clywed gan y bobl sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Er mwyn newid bywydau, mae angen i ni newid cyfreithiau. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru i helpu plant a phobl ifanc ledled Cymru i deimlo’n fwy diogel, yn hapusach, yn iachach ac yn fwy gobeithiol. 

Dychmygwch deimlo’n ddiogel, yn hapus, yn iach ac yn obeithiol

Gadewch i ni helpu plant ledled Cymru i deimlo felly. 

  • Allwch chi ein helpu ni i newid plentyndod rhywun?

    Mae pob plentyn yn haeddu teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi ac i fyw bywyd llawn gobaith. Gall eich rhodd chi helpu i wneud i hynny ddigwydd. 

  • Allech chi roi peth o’ch amser i ni? 

    Gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc drwy wirfoddoli gyda ni, gan gynnwys yn eich siop Barnardo’s Cymru leol. 

  • Angen gwneud rhywfaint o siopa? Neu ydych chi’n clirio eiddo? 

    Gallwch ddod o hyd i eitemau poblogaidd a newydd gwych yn ein siopau ar y stryd fawr. Gallwch hefyd siopa gyda ni ar-lein a thrwy ein siop eBay. Os oes gennych eitemau o ansawdd da nad oes eu hangen arnoch mwyach, byddwn yn dod o hyd i gartref newydd iddynt. Gallwch ollwng rhoddion yn eich siop leol neu drefnu casgliad.

Mwy amdanom ni

Sut rydym ni’n cael ein strwythuro 

Gallwch ddysgu mwy am sut rydym ni’n cael ein strwythuro a’n cefnogi gan ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Contact information for Barnardo's Cymru

Phone number